Cymorth wedi'i Deilwra
[English]
Gall busnesau sy'n cynhyrchu llawer o wastraff solet yng Nghymru gael cymorth wedi'i deilwra gan Envirowise i wella eu heffeithlonrwydd adnoddau ac i leihau faint o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi.
Mae'r cyngor hwn ar gael o'n rhwydwaith o reolwyr rhanbarthol ac mae'n cynnwys ymweliadau safle, gwasanaeth ymgynghori arbenigol, cynlluniau gweithredu a gwasanaeth monitro.
Mae'r gwasanaeth hwn am ddim, yn gyfrinachol ac yn annibynnol.
Er mwyn cysylltu â'r rheolwr neu'r cynrychiolydd ar gyfer eich ardal, cysylltwch â Tim Lineham.
Gall sefydliadau o'r sector cyhoeddus hefyd gael budd o gymorth gan Envirowise yng Nghymru. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar y Sector Cyhoeddus