[English]
Er mwyn helpu busnesau yng Nghymru i groesawu effeithlonrwydd adnoddau a chymryd camau i wella'r amgylchedd pan nad oes ganddynt lawer o amser i'w sbario, mae Envirowise wedi lansio offeryn newydd ar-lein. Mae Dewin Cyhoeddiadau Envirowise yn ffordd newydd o chwilio am wybodaeth am gynaliadwyedd yn y dull cyflymaf a mwyaf effeithiol.
Mae'r Dewin Cyhoeddiadau yn cynnwys gwybodaeth ddethol a gafwyd o dros 600 o gyhoeddiadau sydd ar gael ar wefan Envirowise, yn cynnwys cyngor a gwybodaeth i helpu busnesau o bob maint a sector i fynd i'r afael â'u heffaith ar yr amgylchedd.
Mae'r offerynnau newydd yn eich galluogi i ddewis pynciau a materion penodol sy'n berthnasol i'ch cwmni o restr o opsiynau. Unwaith y byddwch wedi dewis yr holl opsiynau bydd y safle'n creu dogfen PDF wedi'i theilwra'n arbennig ar eich cyfer i'w llwytho i lawr neu ei hargraffu.
Gallwch ddewis y wybodaeth sy'n berthnasol i'ch busnes yn hytrach na chwilio drwy gronfa ddata eang o gyhoeddiadau a phersonoli eich dogfennau drwy ychwanegu eich enw ac enw eich cwmni. Drwy symleiddio'r chwiliad, gallwch sicrhau eich bod yn treulio llai o amser yn chwilio am wybodaeth a mwy o amser yn gweithredu ar faterion amgylcheddol.
Beth am roi cynnig ar Ddewin Cyhoeddiadau Envirowise http://www.envirowise.gov.uk/publications i gael gafael ar yr amrywiaeth eang o ddogfennau sydd ar gael.