
[English]
Pob blwyddyn yn y DU, mae tua 1 biliwn o gardiau Nadolig yn cael ei thaflu i ffwrdd, a byddant mewn tirlenwadau 30 mlynedd o nawr. Llynedd, danfonwyd 60,000 o e-gardiau wrth danysgrifwyr Envirowise - gan arbed dros dunnell o bapur, yn ogystal â thorri yn ôl ar gostau cynhyrchiad a dosbarthu.
Gwnewch eich rhan i helpu lleihau’r gwastraff yma trwy ddanfon e-gardiau Envirowise i’ch cydweithwyr, cysylltiadau busnes, ffrindiau a’ch teulu - a mynegwch eich ymrwymiad corfforaethol ar yr un pryd. Y dyddiad diwethaf i’w archebu yw canol dydd yr 18eg o Ragfyr.
Mae danfon carden yn rhwydd - dewiswch un o’r wyth cynllun, llwythwch logo eich cwmni (opsiynol), ychwanegwch neges bersonol, a mewnbynnwch y cyfeiriadau e-bost hoffech chi ddanfon y garden i.
NODER: Bydd eich e-gardiau’n aros am gymeradwyaeth, ac yna’n mynd i mewn i giw i’w ddanfon allan o fis Rhagfyr ymlaen.