[English]
Offeryn rhyngweithiol ar y we yw Dangosydd Envirowise wedi'i gynllunio i alluogi i fusnesau yng Nghymru, beth bynnag fo'u maint ac o ba bynnag sector diwydiant y maent yn perthyn iddo, gael cipolwg defnyddiol ar effaith eu cwmni ar yr amgylchedd a'r arbedion ariannol y gellir eu gwneud drwy fynd i'r afael â hyn.
Gwyliwch ein podlediad i gael gwybod sut i ddefnyddio'r offeryn
Defnyddio'r offeryn
Unwaith y byddwch wedi cynnwys data ar ddefnydd eich cwmni o ddeunyddiau crai, bydd yr offeryn yn dangos costau hyn ac yn dangos faint o garbon fyddai wedi'i gynhyrchu ar gyfer eich defnydd o'r adnoddau. Bydd hefyd yn dangos faint o dir y byddai ei angen i gefnogi'r defnydd hwnnw o adnoddau.
Dylai'r offeryn eich helpu i ddeall pa adnoddau yw'r rhai pwysicaf wrth reoli eich effeithiau. Mae hefyd yn awgrymu ffynonellau cymorth i leihau'r effeithiau hyn. Fodd bynnag, offeryn dangosol yn unig ydyw a bydd angen data a dadansoddiad mwy manwl arnoch er mwyn deall effeithiau eich cwmni. Mae cysylltiadau i offerynnau a gwybodaeth arall i'ch helpu i ymchwilio ymhellach, os byddwch yn dymuno.
Drwy gadw data, gallwch gymharu eich perfformiad yn y dyfodol yn barhaus yn erbyn eich perfformiad sylfaenol a fydd yn eich galluogi i weld eich cynnydd.
Botwm dechrau'r offeryn