[English]
Gan fod 10% o weithlu Cymru bellach yn gweithio o gartref, sef 135,000 o bobl, mae Envirowise yn eu hannog i ystyried ffyrdd y gallant leihau defnydd diangen o adnoddau.
Er y gallai'r cynnydd hwn yn nifer y bobl sy'n gweithio o gartref arwain at ostyngiad mewn tagfeydd traffig a'r effeithiau amgylcheddol cysylltiedig, mae Envirowise yn rhybuddio pobl sy'n gweithio o gartref bod angen iddynt barhau i ystyried sut i leihau gwastraff.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn un o'r sefydliadau niferus yng Nghymru sydd wedi rhoi polisi gweithio o gartref ar waith yn ddiweddar. Mae'r cyngor yn annog ei holl gyflogeion i edrych ar ffyrdd o leihau eu heffaith amgylcheddol ble bynnag y maent yn gweithio, fel yr eglura Rhodri Llwyd, y Swyddog Prosiectau Arbennig: "Gallwch ddefnyddio adnoddau yr un mor effeithlon gartref ag y byddech yn ei wneud yn y swyddfa ac nid oes rhaid i leihau gwastraff fod yn llafurus nac yn ddrud. Gall cyflogwyr a chyflogeion fel ei gilydd sefydlu camau hawdd i fynd i'r afael â'r mater a sicrhau bod y chwyldro gweithio o gartref yn cyflawni ei botensial o ran gwella'r amgylchedd."
Ymysg awgrymiadau Envirowise ar gyfer gwella effeithlonrwydd adnoddau yn y swyddfa gartref mae:
- Adolygu a monitro faint o ddwr a ddefnyddir. Troi tapiau sy'n gollwng i ffwrdd a gosod dyfeisiadau arbed dwr mewn sestonau toiledau.
- Wrth wneud te a choffi, ni ddylid berwi mwy o ddwr na'r hyn sydd ei angen.
- Byddwch yn ymwybodol o faint o bapur a ddefnyddir. Dylech feddwl ddwywaith cyn argraffu negeseuon e-bost a dylech bob amser ailgylchu papur a ddefnyddiwyd.
- Dylech newid bylbiau golau i rai ynni effeithlon a sicrhau y caiff goleuadau eu diffodd mewn ystafelloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio.
- Dylech ystyried cynnal cyfarfodydd drwy delegynadledda yn hytrach nag wyneb yn wyneb pan na fydd cyfarfod personol yn hanfodol er mwyn lleihau gollyngiadau mewn cysylltiad â thrafnidiaeth.
Am ragor o wybodaeth ewch i'r tudalennau Green Officiency.