[English]
Anogir bwytai ac arlwywyr ledled Cymru i waredu brasterau, olew a saim mewn modd cyfrifol - er mwyn lleihau'r achosion niferus o garthffosydd wedi'u blocio oherwydd gwastraff bwyd.
Mae Dwr Cymru yn gofyn i fusnesau waredu gwastraff coginio yn ofalus, er mwyn helpu i atal brasterau rhag cronni sy'n cyfrif am tua thri chwarter o'r achosion o garthffosydd wedi blocio yng Nghymru.
Lansiwyd ymgyrch 'Ymwybyddiaeth Draeniau Cymru' y cwmni i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i arlwywyr am y ffordd gywir o waredu gwastraff - a gofyn iddynt feddwl ddwywaith am beth sy'n mynd i lawr y sinc. Y neges yw bod draeniau wedi blocio yn effeithio ar fusnes a'r amgylchedd, a gallent fod yn gostus i'w clirio.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Defnyddwyr Dwr Cymru, a'r corff diwydiannol Water UK yn cefnogi'r ymgyrch.
Dywedodd Bob Evans, Rheolwr Strategaeth Dwr Gwastraff Dwr Cymru, "Bob blwyddyn rydym yn clirio dros 15,000 o garthffosydd cyhoeddus wedi blocio yn ardal weithredu Dwr Cymru a all achosi anghyfleustra a thrafferthion drwy lifogydd, llygredd, aroglau a draeniau, sinciau a thoiledau yn gorlifo. Gallant olygu bod yn rhaid i fusnes gau nes i'r garthffos wedi blocio gael ei chlirio."
Er mwyn amlygu arfer gorau mae Dwr Cymru a Sovereign Leisure sy'n rheoli'r datblygiad masnachol Mermaid Quay ym Mae Caerdydd wedi cyhoeddi canmoliaeth gyntaf Ymwybyddiaeth Draeniau Cymru - i'r bwyty poblogaidd Pearl of the Orient. Mae'r bwyty, sy'n rhan o Mng Group, wedi gosod uned dosio ensymau ac mae'n dilyn arfer gorau ar gyfer gwaredu gwastraff bwyd. Maent hefyd yn ailgylchu eu holew coginio, a gaiff ei gasglu am ddim gan gludydd gwastraff trwyddedig a'i ailgylchu fel bio-diesel, a ddefnyddir mewn cerbydau.
Dywedodd Chris Mills, Cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Mae braster gwastraff un busnes yn ddeunydd crai i fusnes arall. Byddai'n llawer gwell gennym ei weld yn cael ei gasglu a'i reoli gan weithredwyr cyfrifol a all ei ddefnyddio'n dda, yn hytrach na'i fod yn achosi problemau yn y system garthffosiaeth ac yn yr amgylchedd."
Ychwanegodd Stephen Chan, Rheolwr Mng Group: "Mae'n bleser gennym gael ein cydnabod gan brosiect mor bwysig. Mae gwastraff a reolir yn briodol yn gofalu am yr amgylchedd, ac mae'n adlewyrchu lefel uchel o hylendid bwyd - dymunwn bob llwyddiant i'r ymgyrch."
Dywedodd Diane McCrea, Cadeirydd CCWater: "Gellir osgoi achosion o ddraeniau wedi blocio oherwydd brasterau, olew a saim ond eto dyma un o'r prif resymau dros achosion o garthffosydd yn gorlifo. Rydym yn cefnogi'r ymgyrch hon yn llwyr - dylid cefnogi unrhyw beth sy'n lleihau'r risg o garthffosydd yn gorlifo i ddefnyddwyr a busnesau, ac yn lleihau costau glanhau draeniau."
Ceir gwybodaeth lawn am y dull cywir o waredu brasterau, olew a saim yn ein pecyn gwybodaeth sydd hefyd yn cynnwys poster yn rhestru'r hyn y dylid ei wneud a'r hyn na ddylid ei wneud. Ffoniwch linell gymorth cyhoeddiadau Dwr Cymru am ddim ar 0800 052 0138 i gael copi am ddim.