[English]
Yn ystod mis Tachwedd 2007 daeth arweinwyr busnes o bob rhan o Gymru ynghyd ar gyfer Uwchgynhadledd Busnes Tywysog Cymru ar Newydd yn yr Hinsawdd.
Cydnabu pwysigrwydd mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd gan y mwyafrif o gyfranogwyr a theimlai llawer y gall busnes gael dylanwad sylweddol ar leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd. Gwelwyd yr her hon fel cyfle i fusnesau wella'r llinell sylfaenol drwy leihau costau ynni a sicrhau mantais gystadleuol drwy arloesi, cyfleoedd newydd yn y farchnad a sicrhau enw gwell i'w brand.
Gwnaed addewidion i weithredu ar ddiwedd y digwyddiad a dangosodd y rhain fod y cynadleddwyr yn ymroddedig iawn i annog cwmnïau, cyflogeion, cwsmeriaid a chyflenwyr i weithredu o ran yr agenda newid yn yr hinsawdd, gyda'r rhan fwyaf o'r rheini sy'n bresennol yn ymrwymo i weithredu mewn rhyw ffordd.
Ar ddiwedd yr Uwchgynhadledd, gofynnwyd i'r cynadleddwyr beth yw'r prif beth fyddai'n helpu eu busnes i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Cyngor, cymorth ac addysg arbenigol ar sut i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â rhannu arfer gorau, a nodwyd amlaf fel y ffyrdd gorau y gellid cynorthwyo cwmnïau i weithredu ar yr agenda hwn. Er mwyn sicrhau bod y momentwm o'r Uwchgynhadledd yn parhau, mae Busnes yn y Gymuned a phartneriaid y digwyddiad hwn wedi dod ynghyd i roi cymorth dilynol i gwmnïau'r cynadleddwyr gyflawni'r addewidion a wnaethant.
I gael rhagor o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael ac enghreifftiau o arfer da, ewch i www.bitc.org.uk/environment/may_day/index.html.