Skip Navigation
Home > Envirowise yng Nghymru > Newyddion > Canllaw Newydd yn Helpu Cwmnïau Cemegau i Fod yn Wyrdd

Canllaw Newydd yn Helpu Cwmnïau Cemegau i Fod yn Wyrdd

[English]

Mae Envirowise wedi cyhoeddi canllaw ymarferol o'r enw 'Resource Efficiency through Green Chemistry'. Bydd y canllaw yn ddefnyddiol i fusnesau yng Nghymru sy'n gweithgynhyrchu amrywiaeth eang o gynhyrchion cemegol, yn cynnwys paent, plastig, glud a deunydd fferyllol, yn ogystal â'r rheini sy'n defnyddio cemegau yn rheolaidd fel rhan o'u gweithrediadau o ddydd i ddydd, fel argraffwyr, cynhyrchwyr tecstiliau ac electroplaterau.

Bydd y canllaw yn arbennig o ddefnyddiol i weithgynhyrchwyr a chyflenwyr cemegol yn enwedig o ystyried Rheoliadau REACH (Cofrestru, Gwerthuso ac Awdurdodi Cemegau).

Mae'r costau cydymffurfio sy'n gysylltiedig â chofrestru REACH yn debygol o hyrwyddo gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i ystyried defnyddio deunyddiau amgen yn lle'r sylweddau peryglus yn eu cynhyrchion. Gallai egwyddorion cemeg werdd gynnig sail ardderchog i'r broses hon.

Mae Envirowise yn argymell y dylai busnesau gymryd y camau canlynol:

  • Gwneud asesiad o'r cemegion rydych yn eu defnyddio neu'n eu gweithgynhyrchu ar hyn o bryd.
  • Datblygu cynllun gweithredu drwy adolygu 12 egwyddor cemeg werdd.
  • Tasgu syniadau ynghylch syniadau arloesol a chyfleoedd a allai arwain at gynhyrchu cynhyrchion gyda llai o effeithiau amgylcheddol.
  • Ystyried sicrhau bod busnesau yn rhoi blaenoriaeth i'r broses o integreiddio cemeg werdd.
  • Adolygu cynnydd yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y prosesau sy'n cael eu gweithredu yn parhau i arwain at welliannau amgylcheddol.

Mae mwy o fanylion ar gael ar bob un o'r camau hyn yn 'Resource Efficiency through Green Chemistry', y gellir ei ddarllen yn www.envirowise.gov.uk/GG679 neu drwy ffonio Envirowise ar 0800 585794.