Skip Navigation
Home > Envirowise yng Nghymru > Newyddion > Envirowise yn Lansio Offeryn Dangosydd Ar-lein

Envirowise yn Lansio Offeryn Dangosydd Ar-lein

[English]

Mae Envirowise Cymru wedi lansio Dangosydd i helpu busnesau yng Nghymru i ddeall beth y gallant ei wneud i leihau eu hôl-troed carbon a manteisio ar y buddiannau masnachol a ddaw drwy wneud defnydd gwell o adnoddau.

Datblygwyd Offeryn Dangosydd Envirowise yn benodol ar gyfer Cymru mewn cydweithrediad â chwmni ôl-troed ecolegol arweiniol. Mae'n galluogi pob busnes - beth bynnag fo'u maint ac o ba bynnag sector diwydiant y maent yn perthyn iddo - i gael dangosydd defnyddiol o olion troed ecolegol sy'n deillio o'r lefelau o adnoddau y maent yn eu defnyddio a'r gwastraff y maent yn ei greu.

Wrth leihau eu cyfraniad at newid yn yr hinsawdd, mae cwmnïau yn aml yn gwella effeithlonrwydd, costau is ac yn cynyddu cystadleurwydd. Cynlluniwyd Dangosydd Envirowise fel cymhorthydd gwerthfawr a hyblyg yn y broses hon.

Mae'r Offeryn ar gael nawr.