[English]
Bydd gwneud gwelliannau amgylcheddol a lleihau'r adnoddau a ddefnyddir yn un o'r prif flaenoriaethau i dros hanner (56%) y cwmnïau yng Nghymru yn ystod y flwyddyn nesaf, yn ôl gwaith ymchwil gan Envirowise.
Gyda mwy a mwy o ddeddfwriaeth amgylcheddol a chost gynyddol deunyddiau crai, dwr ac ynni yn rhoi pwysau cynyddol ar fusnesau, mae'r ffigur hwn yn dangos bod mwy a mwy o gwmnïau yn rhoi blaenoriaeth i faterion gwyrdd.
Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn nodi mai arbedion cost posibl yw'r prif gymhelliant dros wneud gwelliannau, gyda 62% o'r rhai a holwyd yng Nghymru yn nodi mai gwobrau ariannol yw eu prif gymhelliant. Mewn gwirionedd, mae Envirowise yn amcangyfrif y gallai busnesau sy'n gweithredu i ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon arbed cymaint â £200 fesul cyflogai.
Noda Ed Gmitrowicz, Cyfarwyddwr Envirowise Cymru: "Mae'n galonogol iawn gweld bod pwysigrwydd gwella perfformiad amgylcheddol yn cael ei gydnabod yng Nghymru. Mae defnyddio adnoddau yn lleihau gwastraff ac yn cynyddu maint elw, gan helpu'r blaned a'r llinell sylfaenol. Hefyd, wrth i'r pwysau gan ddefnyddwyr i gael cynhyrchion a gwasanaethau sy'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd barhau, gall greu mantais gystadleuol sylweddol.
"Dylai delio â gwastraff yn ei darddiad gael blaenoriaeth dros ailgylchu ac mae cyfoeth o fesurau syml y gall cwmnïau eu gweithredu ar unwaith. Mae'r rhain yn amrywio o gamau gweithredu cyflym a hawdd fel argraffu ar ddwy ochr tudalennau a thrwsio tapiau sy'n gollwng i systemau rheoli amgylcheddol mwy strwythuredig sy'n cynnwys cyflenwyr a chyflogeion."
Mae Envirowise yn cynnig pecyn o gyngor am ddim ar effeithlonrwydd adnoddau i gwmnïau ledled Cymru sydd â deilliannau gwastraff sylweddol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag. Advice Line.